Croeso i Ardal Weinidogaeth Bro Enlli

Croeso i’n teulu o saith o eglwysi Anglicanaidd sy’n ymestyn o dref farchnad Pwllheli ar arfordir deheuol hardd a rhyfeddol Llŷn nes cyrraedd Aberdaron.

Mae’r gair Bro yn awgrymu ardal ddaearyddol benodol. Enlli yw’r Ynys Sanctaidd y mae llwybrau’r pererinion yn arwain ati, ym mhen pellaf Pen Llŷn, ac sy’n cysylltu ein holl eglwysi,.

Rydyn ni’n Eglwys Gynhwysol, yn Esgobaeth Bangor o’r Eglwys yng Nghymru, sydd wedi ceisio Addoli Duw, Tyfu’r Eglwys a Charu’r Byd ers y chweched ganrif.

Mae Cristionogaeth wedi bod yn ffydd fyw yn Llŷn ers ymhell dros 1400 mlynedd. Mae’r ffaith fod cymaint o eglwysi’r ardal wedi’u cysegru i seintiau’r blynyddoedd cynnar hynny’n dyst fod y ffydd Grisnogol wedi, ac yn dal, i gael ei choleddu ers y dyddiau cynnar. Roedd bron bob un o’r seintiau Celtaidd Cristnogol cynnar a gyflwynodd y ffydd i bobl Cymru yn genhadon teithiol. Mae lleoedd sydd wedi’u cysegru i’r cenhadon cynnar hyn yn dangos eu bod wedi setlo yn ein bro ac wedi cychwyn, felly, y genhadaeth rydyn ni ein hunain heddiw yn cael y fraint o’i pharhau. Mae pobl Llŷn wedi croesawu pererinion ac ymwelwyr ers mil o flynyddoedd ac mae’n wych ein bod ni’n gallu eich croesawu CHI i’n heglwysi.

Amseroedd Gwasanaeth

GWASANAETH Y SUL

Sant Pedr, Pwllheli
Dydd Sul Yr Offeren Sanctaidd ar Gân 11:00am (Dwyieithog)
Sant Pedrog, Llanbedrog
Dydd Sul Yr Offeren Sanctaidd 10am (Dwyieithog)
Sant Hywyn, Aberdaron
Dydd Sul Y Cymun Bendigaid / Y Foreol Weddi 11:00am (Dwyieithog)
Sant Maelrhys, Llanfaelrhys
Dydd Sul Yr Hwyrol Weddi 2pm (Cymraeg)
Sant Cian, Llangian
Bob yn ail ddydd Sul Y Cymun Bendigaid 9yb (Saesneg)
Eglwys y Groes Sanctaidd, Llannor
Bob yn ail ddydd Sul Y Foreol Weddi / Y Cymun Bendigaid 11yb / 3yp (Cymraeg)
Sant Engan, Llanengan
Bob yn ail ddydd Sul Y Cymun Bendigaid 9am (Saesneg)

GWASANAETH DYDDIOL

Sant Pedr, Pwllheli
Dydd Mawrth Yr Offeren Sanctaidd 10:30am (Dwyieithog)
Sant Pedrog, Llanbedrog
Dydd Mercher Yr Offeren Sanctaidd 10am (Dwyieithog)
Sant Hywyn, Aberdaron
Dydd Iau Y Cymun Bendigaid / Y Foreol Weddi 10:30am (Dwyieithog]
Sant Maelrhys, Llanfaelrhys
3ydd dydd Sul y mis Y Cymun Bendigaid 2pm (Dwyieithog)
CYFRANNU AT BRO ENLLI HEDDIW

Beth sy’n digwydd

Ym Mro Enlli, yn aml iawn mae yna ddigwyddiadau heblaw ein gwasanaethau ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. Cyngherddau, gwasanaethau dathlu, arddangosfeydd, boreau coffi a llawer mwy.

Cewch weld beth sy’n digwydd yn unrhyw un o’n heglwysi ar y calendr Gwgl a llawr lwytho’r wybodaeth ar eich dyfais.

NEWYDDION

Cyhoeddiadau 22 Mawrth 2026

Facebook

Bro Enlli
Bro Enlli1 day ago
Mae Bro Enlli yn falch iawn o groesawu Nikki Davies fel myfyriwr ar leoliad efo ni am flwyddyn. Mae Nikki ar fin cychwyn pennod newydd yn ei bywyd fel ordinand yn hyfforddi i weithio fel offeiriad llawn amser yn yr Eglwys yng Nghymru.
Dywedodd Nikki, "mae'n wir fraint i fod yma, ac edrychaf ymlaen at addoli gyda chi a chwrdd â chi i gyd yn fuan. Pob Bendith."

Bro Enlli is very pleased to welcome Nikki Davies as a student on placement with us for a year. Nikki is about to start a new chapter in her life as an ordinand training to work as a full-time priest in the Church in Wales.
Nikki said, "It is a real privilege to be here, and I look forward to worshipping with you and meeting you all soon. Pob bendith."
Bro Enlli
Bro Enlli1 week ago
Noson gofiadwy yng nghwmni Ar Log yn Eglwys St Hywyn Aberdaron a diolch i bawb am gefnogi!
🪈🎶🎵🪕🎻🎹
A wonderful evening with Ar Log in St Hywyn's Church Aberdaron. Thanks to all for supporting!
Bro Enlli
Bro Enlli
Bro Enlli1 week ago
12 tocyn ar ôl i'r gyngerdd heno - i'w prynu wrth y drws!

12 tickets left for tonight's concert - pay at the door!
Bro Enlli
Bro Enlli3 weeks ago
Bro Enlli
Bro Enlli4 weeks ago
34 Pilgrims arrived at St Hywyn's. North Wales Pilgrim Way=134 miles over 3 years - Parents, Children & Dogs! Llongyfarchiadau Celtic Church, Cheshire.

YMWELWYR

Cysylltwch â Ni

Pwy ‘di Pwy