Mae’r Banc Bwyd ar agor i gleientiaid pob Dydd Mawrth a Dydd Gwener o 2pm i 3pm.
Mae Banc Bwyd Pwllheli wedi bod yn rhedeg fel Banc Bwyd annibynnol ers 2013. Erbyn hyn rydym ni’n dosbarthu tua 600 o barseli bwyd y flwyddyn. I ddechrau, roedden ni’n credu mai prosiect dros dro fyddai hwn i lenwi angen tymor byr pobl oedd mewn trafferthion yn sgil yr argyfwng ariannol oedd wedi gafael yn ein gwlad.
Ers hynny nid yw’r problemau sy’n wynebu’n cymdeithas wedi gwella ac mae pobl yn dal i ganfod nad yw eu hadnoddau prin yn ddigon i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae teuluoedd yn yr ardal hon yn cael eu heffeithio’n arbennig gan ddiffyg gwaith a chyflogau isel. Efallai mai dim ond swyddi tymhorol sydd ar gael nad ydyn nhw’n talu digon i gadw teulu am flwyddyn gyfan.
Erbyn hyn, gyda mwy o angen yn ein cymunedau, rydyn ni’n brysurach nag erioed ac mae Banciau Bwyd ar draws y wlad erbyn hyn yn nodwedd barhaol o’n cymdeithas.
Pob dydd, mae pobl yn llwgu am wahanol resymau, o ddiweithdra parhaol i fil eithriadol o uchel a heb fodd i’w dalu ar unwaith tra’n byw ar incwm isel. Mae bocs o fwyd syml yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’r pecynnau o fwyd rydyn ni’n eu dosbarthu’n helpu i atal trosedd, colli cartref, torri teulu a phroblemau iechyd meddwl. Gyda rhodd o fwyd rydyn ni’n dangos nad oes neb yn cael ei anghofio ac mae’n rhoi gobaith i bobl am well yfory.
Cyn bod pobl yn cael dod i’r Banc Bwyd i gael eu parsel o fwyd, mae’n rhaid iddyn nhw gael taleb oddi wrth un o’n hasiantaethau cyfeirio. Pobl broffesiynol gofal yw’r rhain megis meddygon, ymwelwyr iechyd, ysgolion a gweithwyr cymdeithasol a hefyd elusennau’r rheng flaen sy’n gweithio gyda rhai mewn tlodi ym mhob demograffeg o gymdeithas. Maen nhw’n canfod y bobl sydd mewn argyfwng ac yn rhoi taleb i’r Banc Bwyd iddyn nhw. Mae taleb yn rhoi hawl i dderbyn parsel o’r Banc Bwyd sy’n cynnwys digon o fwydydd am dri diwrnod, wedi’u cydbwyso o ran maeth ac na fydd yn mynd yn ddrwg. Mae’r asiantaethau’n gallu rhoi talebau i’r client neu gysylltu â’r Banc Bwyd dros y ffôn, neges destun, negesydd neu e-bost gyda manylion y client.
Er bod rhai Banciau Bwyd yn cyfyngu eu cwsmeriaid i 3 taleb y flwyddyn, dydyn ni ym Mhwllheli ddim yn gwneud hynny. Ar ôl 3 ymweliad, byddwn yn edrych a yw rhywun yn dal mewn argyfwng ac a yw problemau gwaelodol tlodi’n derbyn sylw. Gallwn gynghori pobl i chwilio am yr help sydd ar gael i daclo achosion gwaelodol eu tlodi. Mae gwybodaeth gyda phob pecyn ynghylch yr asiantaethau cyfeirio a chyngor am yr asiantaethau a allai fod o gymorth gyda phroblemau dyled neu iechyd meddwl. Rydyn ni’n cynnig cymorth brys ond yn ceisio peidio â gwneud pobl yn ddibynnol ar gymorth bwyd mewn argyfwng ond fyddwn ni ddim, chwaith, yn gadael i bobl lwgu os gallwn ni rwystro hynny. Os ydych yn meddwl eich bod chi angen taleb banc bwyd ac yn ansicr ble i gael un, cysylltwch â ni ac mi allwn eich cyfeirio at yr asiantaeth gyfeirio berthnasol.
Daw’r bwyd o lawer o wahanol ffynonellau, ond yn bennaf oddi wrth bobl fel chi a fi. Mae yna drol yn ASDA ac ICELAND Pwllheli yn ogystal â blychau casglu arian yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli, Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog, Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ac mewn amryw o eglwysi a chapeli eraill yn yr ardal. Mae troliau’r archfarchnad yn cael eu gwagio’n rheolaidd gan wirfoddolwyr y Banc Bwyd ac mae’r nwyddau’n dod i Sant Pedr i’w dyddio a’u cadw’n barod i’w rhannu. Fel arfer, gellir rhannu unrhyw eitem nad yw’n troi’n ddrwg ond mae angen rhai eitemau bob amser:
Yn ogystal â bwyd, rydyn ni’n dosbarthu eitemau i’r cartref fel papur tŷ bach, hylif golchi llestri ac eitemau sylfaenol hylendid megis sebon a gel cawod.
Ar adegau arbennig megis y Nadolig, y Pasg, dydd Sant Ffolant a Sul y Mamau, rydyn ni hefyd yn ceisio rhoi ychydig bach o bethau ychwanegol fel nad yw pobl yn teimlo mai dim ond goroesi y maen nhw, ond eu bod nhw hefyd yn gallu ymuno a dathlu’r achlysuron mawr. I’r bobl sy’n rhedeg y Banc Bwyd, mae’n brofiad eithriadol o ostyngedig gweld y llawenydd ar wynebau rhieni sy’n sylweddoli’n sydyn eu bod nhw’n gallu nid yn unig ddathlu’r Nadolig gyda’u plant ond hefyd bod yna ychydig bach dros ben.
Rydyn ni pob amser yn cynnal amryw o ddigwyddiadau a boreau coffi i godi arian i brynu eitemau nad ydyn nhw’n parhau’n hir (megis bara a menyn) ac unrhyw bethau eraill rydyn ni’n brin ohonyn nhw. Ond, erbyn hyn, gyda’r Pandemig Covid allwn ni mo’u cynnal. Gobeithio y gallwn ni eu cynnal eto, cyn bo hir; mae’r gwirfoddolwyr a’r ymwelwyr yn eu mwynhau gymaint â’i gilydd ac rydyn ni’n gallu addysgu mwy o bobl ynghylch rôl y Banc Bwyd yr un pryd.
Ym Manc Bwyd Pwllheli, rydyn ni’n cynnig mwy na dim ond bwyd mewn argyfwng. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd ddiogel a gofalgar ble mae pobl, sy’n aml yn fregus, yn gallu dod yno a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Rydyn ni’n sicrhau fod Offeiriad ar gael yn y rhan fwyaf o sesiynau ar gyfer gofal bugeiliol, rhywun i wrando heb feirniadaeth a ble mae’n briodol, i gynnig cyngor ac i gyfeirio pobl at gymorth bellach.
Rydyn ni’n cynnig gobaith i’n cwsmeriaid, yn dangos nad ydyn nhw’n angof a bod pawb, waeth beth yw eu hamgylchiadau, yn werthfawr ac yn cael eu caru.
Gallwch gefnogi’n gwaith mewn sawl ffordd:
• Rhoi eitemau o fwyd, naill ai’n uniongyrchol i ni yn ystod oriau agor y banc bwyd neu trwy un o’n mannau casglu.
• Drwy wirfoddoli, dim ond galw i mewn i’n gweld a chanfod sut y gallwch helpu. Rydyn ni’n chwilio bob amser am bobl i helpu gyda rhedeg y sesiynau, didoli’r rhoddion, siopa, casglu rhoddion o’r mannau casglu.
• Yn ariannol, rhoi rhodd unwaith yn unig neu archeb sefydlog, misol, rydyn ni’n ddiolchgar bob amser am unrhyw arian sy’n ein galluogi ni i barhau i gefnogi rhai mewn angen. Ein manylion banc yw: Côd Didoli 309043; Rhif y Cyfrif 47736068 neu cysylltwch â ni i gael ffurflen debyd uniongyrchol.
• Cewch gyfrannu trwy ein tudalen rhoddi.
• Rydyn i bob amser yn falch o gael ymwelwyr â’n sesiynau Banc Bwyd – yr adeg gorau i siarad gyda ni yw rhwng 12-2pm ar Ddydd Mawrth a Dydd Gwener.
• Trwy ein tudalen Gweplyfr ble gallwch hefyd weld beth sy’n digwydd yn y Banc Bwyd.
• Ffonio Karen Cooper ar 07747 800 320