Croeso i Eglwys y Groes Sanctaidd, eglwys mewn pentref bychan ger Pwllheli a adferwyd yn oes Fictoria ac y mae ei sylfaeni hynafol yn adrodd cyfrolau.
Mae peth anghydfod ynghylch tarddiad yr enw ‘Llannor’. Mewn un ddogfen o’r 13eg ganrif sydd â rhestr o blwyfi cyfnod Llywelyn ab Gruffydd (bu farw 1282) gelwir Llannor yn ‘Llan-Vair-yn Llŷn’. Mae’n debyg fod yr eglwys wreiddiol wedi’i chysegru i’r Forwyn Fair a bod ‘Llan-Fair’ – yn dangos nawdd a chysegriad. Mae’n bosibl hefyd y daeth Llan Fair yn Llan For dros y blynyddoedd ac yna’n ‘Llannor’. Does dim llawer ar ôl o adeiladwaith yr eglwys o’r 13eg ganrif, ond mae sylfaeni corff yr eglwys bron yn bendant o’r cyfnod hwnnw a’r tŵr o ddiwedd y 14eg ganrif. Un darganfyddiad diddorol yn Llannor oedd tair carreg fedd, pob un ag ysgrifen, o’r cyfnod Cristnogol cynnar. Mae’r fwyaf a’r mwyaf ysblennydd yng nghyntedd yr eglwys a’r ddwy arall yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog. Mae’r ddwy sydd yn yr Oriel yn coffau cenhadon o’r chweched ganrif, Vendesteli’ (Gwynhoedl) a ‘Jovenali, mab Eternus’ (Edern) a’r un yn Llannor yn cofnodi ‘FIGVLINI FILI LOCVLITIHIC IACIT’ (carreg Figlini, yma y gorwedd). Mae’r rhan fwyaf o’r eglwys sydd i’w gweld heddiw’n dyddio’n ôl i 1855, pan gafodd ei hadfer. Cyn y gwaith adfer hwnnw, mae’n debyg bod ganddi ddau dransept, yn ffurfio croes, o ble y daeth ei henw Eglwys y Groes Sanctaidd.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.
Martyn Croydon martynllyn@gmail.com
Lowri Jones lowritynewydd@hotmail.com