Croeso i Eglwys Sant Cian, yng nghanol pentref bychan, tawel, Llangian, ychydig filltiroedd o bentref glan y môr prysur Abersoch. Mae perthynas agos wedi bod rhwng eglwysi Llangian a Llanengan erioed ac, ar foreau Sul, mae yna wasanaeth bob yn ail rhwng y ddwy eglwys. Gosodir hysbysebion y tu allan i’r ddwy eglwys i ddangos lle bydd gwasanaeth y Sul canlynol ac mae croeso i chi ffonio neu ebostio i ofyn am wybodaeth. Mae coffi ar gael yn y ddwy eglwys ar ôl y gwasanaeth.
Sefydlwyd eglwys ar y safle rywbryd yn ystod y chweched ganrif gan Cian, ein nawddsant, a oedd yn genhadwr gyda Peris (Llanberis). Mae’r adeilad presennol yn hir a chul gyda tho o’r 15fed ganrif. Mae’r festri a’r cyntedd yn fodern ond mae’n ddigon posibl y gallai pen gorllewinol yr eglwys fod yn rhan o’r eglwys gyntaf a gofnodwyd yn y 13eg ganrif. Mae’r dyddiad 1638 ar y fedyddfaen wyth ochr. Yn ochr dde’r fynwent mae carreg yn dyddio o’r bumed neu’r chweched ganrif gyda’r arysgrif ‘MELI MEDICI FILI MARTINI I(a)CIT’ – ‘Melus, y meddyg, fab Martinus. Yma y gorwedd’. Nodwedd arbennig o’r garreg hon yw ei bod yn cyfeirio at broffesiwn y dyn a fu farw – meddyg, sy’n anarferol ar gerrig gydag arysgrif yng Nghymru, offeiriadon yw’r rhan fwyaf.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.
Annie Owen 01758 712 570 | annie@llawdref.co.uk
Brenda Williams 01758 740 338 | brendachidley@msn.com