Sant Engan

Llanengan, LL53 7LH

AMSER GWASANAETHAU

GWASANAETH Y SUL

Sant Engan, Llanengan
Bob yn ail ddydd Sul Y Cymun Bendigaid / Y Foreol Weddi gydag Eglwys Sant Cian, Llangian 9am (Saesneg)

Croeso i Eglwys Sant Engan, sydd yn mynd â chi’n ôl i’r oesoedd canol y funud y byddwch yn camu drwy’r drws a gweld y groglen a’r lluniau ar nenfwd y gafell.

Mae perthynas agos wedi bod erioed rhwng eglwysi Llangian a Llanengan ac, ar foreau Sul, mae yna wasanaeth bob yn ail rhwng y ddwy eglwys. Gosodir hysbysebion y tu allan i’r ddwy eglwys i ddangos lle bydd gwasanaeth y Sul canlynol ac mae croeso i chi ffonio neu ebostio i ofyn am wybodaeth. Mae’r gwasanaethau yn Saesneg fel arfer ac hefyd yn rhai Ewcharistig. Mae coffi ar gael yn y ddwy eglwys ar ôl y gwasanaeth.

Mae eglwys Llanengan heb os yn un o’r mwyaf hynod yn Llŷn ac mae Enlli i’w gweld yn glir oddi yno. Mae’r rhan fwyaf o’r eglwys bresennol yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif a chafodd y tŵr ei adeiladu ym 1534. Roedd ganddi gysylltiadau pwysig gyda Eglwys yr Abaty ar Enlli ers yr cyfnod pan roddodd Engan, ein nawddsant, Enlli yn anrheg i Cadfan, a sefydlodd y dreflan Gristnogol Geltaidd gyntaf ar yr ynys yn y chweched ganrif. Ym 1537, dinistriwyd y fynachlog Awgwstinaidd ar Enlli, ac efallai fod yna gysylltiad rhwng hynny ag ail adeiladu’r eglwys hon. Mae’n ddigon posibl mai o Enlli y daeth y clychau sydd yn tŵr a hefyd y ddwy sgrîn ganoloesol a’r blwch arian mawr, addurnedig, ger y drws deheuol. Mae yna ddwy ffynnon sanctaidd hynafol ym mhen draw’r fynwent, y tu hwnt i’r wal derfyn orllewinol, sy’n cael eu cysylltu’n draddodiadol â iachau yn y canol oesoedd. Mae Llangian yn dal, fel yn y canoloesoedd, yn boblogaidd gyda phererinion hyd heddiw.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.

Wardeiniaid yr Eglwys:

Dewi Roberts 01758 713 893 | dewicyc@btinernet.com
Hazel Graham hazelgraham2@gmail.com

  • "Mae’r olygfa odidog o’r eglwys dros y dolydd, ac i lawr i’r môr ac ar draws y dŵr i Ynys Enlli, canolfan bwysig pererindodau ar hyd yr oesau a’r rheswm dros adeiladu Eglwys Sant Engan yn y 16eg Ganrif. Hyd heddiw mae’n ysbrydoli’n cynulleidfa fel ‘cefndir’ i’n bywydau pob dydd."

    Peter Hill, Trysorydd Sant Engan