Croeso i Eglwys Sant Hywyn, sydd ar yr allt fôr iwchben y traeth yn edrych dros Fôr Iwerddon. Yn aml, gallwch glywed y tonnau’n torri ar y traeth y tu allan wrth i chi eistedd yn y llonyddwch y tu mewn. Mae ein gwasanaethau ar y Sul ac ar ddyddiau Iau’n denu llawer o bobl, yn enwedig yr ymwelwyr sy’n heidio i Aberdaron ym misoedd yr haf. Mae yna baned am ddim bob amser ar ôl y gwasanaethau.
Mae Eglwys Sant Hywyn wedi’i rhestru ar y Small Pilgrim Places Network [SPPN] a Trip Advisor.
Ers y canol oesoedd, mae Llŷn wedi denu miloedd o bererinion. Mae dau lwybr hynafol i bererinion gyrraedd Ynys Sanctaidd Enlli – dywedodd y Pab Calixtus 11 yn 1120 bod tair ymweliad ag Enlli’n cyfrif fel un i Rufain. Mewn dogfen arall yn dyddio o 1122, disgrifir Enlli fel ‘Rhufain Cymru’ a bod yna 20,000 o saint wedi’u claddu yno. Mae llwybr y de yn cyfarfod llwybr y gogledd (www.pilgrims-way-north-wales.org) yn Eglwys Sant Hywyn ac roedd perthynas agos iawn rhyngddi hi ag Enlli o’r cychwyn cyntaf. Daeth ein nawddsant, Sant Hywyn, i Enlli o Lydaw yn y chweched ganrif, roedd yn un o sawl cydymaith i Sant Cadfan, a sefydlodd gymuned o fynachod yma. Yr un pryd, sefydlodd Cadfan fynachlog Geltaidd ar Enlli. Adeiladwyd llawer o’r eglwys bresennol yng nghyfnod Gruffydd ab Cynan, Twysog Gwynedd, â’i gwnaeth yn bosibl adeiladu eglwysi o gerrig yn y rhan hon o Gymru. Mae yna sawl nodwedd ddiddorol yn ei chylch ac un o’r rhain yw’r ddwy garreg o’r chweched ganrif sy’n coffau dau offeiriad, Senacus a Veracius. Mae carreg Senacus yn dweud iddo gael ei gladdu gyda llawer o’i frodyr – a allai hyn fod yn awgrym cynnar o’r 20,000 o saint y dywedir eu bod wedi’u claddu yn Enlli? Ger yr ‘hanes ar garreg’ hon, y mae ‘gweddi ar garreg’, llawer mwy modern. Gwahoddir pererinion ac ymwelwyr i godi carreg ar y traeth, ysgrifennu enw neu weddi arni a’i gosod ar bentwr o gerrig tebyg gyda cheisiadau tebyg am weddi. Ddiwedd mis Hydref, bydd y cerrig yn cael eu rhoi yn ôl yn y môr fel rhan o wasanaeth bore Sul.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.
Val Wood 01758 760528 | chrisandvalwood@gmail.com
Jenny Asenbryl 07787 403 433