Sant Maelrhys

Llanfaelrhys, LL53 8AN

AMSER GWASANAETHAU

GWASANAETH Y SUL

Sant Maelrhys, Llanfaelrhys
Dydd Sul Yr Hwyrol Weddi 2pm (Cymraeg)

GWASANAETH DYDDIOL

Sant Maelrhys, Llanfaelrhys
3ydd dydd Sul y mis Y Cymun Bendigaid 2pm (Dwyieithog)

Croeso i Eglwys Sant Maelrhys, sydd ger llwybr yr arfordir, uwchben allt fôr Porth Iago, lle mae’r olygfa drwy wydr clir ffenestr y dwyrain yn unigryw.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau yn Gymraeg ac mae croeso cynnes i ymwelwyr ymuno. Yn ogystal â gwasanaeth y Sul mae gennym hefyd y ‘Myfyrdodau’ misol. CLICIWCH YMAi gael manylion.

Mae Eglwys Sant Maelrhys wedi’i rhestru ar y Small Pilgrim Places Network [SPPN] a Trip Advisor.

Cenhadwr o’r seithfed ganrif oedd ein nawddsant, Maelrhys, ac mae ei eglwys ar le amlwg rhwng Penarfynydd a’r ehangder o arfordir gwyllt sydd yn rhedeg i Aberdaron ac Enlli. Mae tŵr cerrig y gloch, tal fel simnai, yn amlwg iawn o’r môr ac o fynydd y Rhiw. Byddai’n farc i gychod pysgota allan yn y bae. Mae adwy orllewinol a llwybr yn arwain at ddrws, cul ac isel, Normanaidd. Y tu fewn, yng nghorff yr eglwys, mae yna seddi bocs, hen ffasiwn, ar yr ochr ddeheuol a meinciau plaen ar yr ochr ogleddol. Mae’r fedyddfaen ar y pen gorllewinol o gyfnod yr oesoedd canol cynnar.

Roedd y bardd Eingl-Gymreig enwog, R S Thomas yn Ficer Aberdaron a Llanfaelrhys rhwng 1967 a 1978. Yn ddiweddar, mae yna ystafell fechan i fyny’r grisiau wedi’i neilltuo i gadw ei lyfrau a’i luniau. Mae’r ystafell yn denu pererinion llenyddol ac nid yw’r eglwys yn cael ei chloi y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Hon yw un o ddim ond dwy eglwys o lle gellir gweld Ynys Enlli.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.

Warden yr Eglwys:

Griff Jones 01758 780 293 | helenjones67@btinternet.com

  • "Mae’r eglwys syml hon, dim ond dafliad carreg o lwybr yr arfordir, yn lle i orffwys a myfyrio ar daith bywyd, o fewn golwg ynys gysegredig Enlli."

    Susan Fogarty, Warden Ardal Weinidogaeth