Croeso i Eglwys Sant Pedr lle mae ysblander y ffenestr gwydr lliw yn gefndir i gyfarfod ag anghenion cymdeithasol y bobl mwyaf bregus y dref fwyaf yn Llŷn.
Mae Pwllheli’n cael ei ystyried yn ‘brifddinas Llŷn’, tref farchnad brysur sy’n denu cannoedd o ymwelwyr yn yr haf a phobl leol i’r farchnad awyr agored ar ddyddiau Mercher. Yn ogystal â’r cylch addoli wythnosol, mae’r eglwys yn ganolfan gymdeithasol brysur gyda banc bwyd wythnosol, clwb cinio, grŵp Rheini a Phlant, marchnad elusennol a digwyddiadau galw heibio.
Mae yna eglwys wedi bod yn y dref yn gwasanaethu ei phobl ers yn gynnar iawn. Adeiladwyd yr eglwys gyntaf gan Beuno, neu ei ddisgyblion, rywbryd yn ystod y chweched ganrif tua hanner milltir i’r gogledd gan wasanaethu cymuned fechan Denio. Mae hen fynwent yn dal ar y tir. Bu sawl newid i’r adeiladau cynnar, rhai syml i wasanaethu tref fechan a oedd, ym 1283, a dim ond 20 o dai. Roedd y rhan fwyaf o ddigon o fywyd y dref yn troi o gwmpas y porthladd a’r ierdydd adeiladu llongau. Dros y blynyddoedd, ymestynnodd y dref i lawr yr allt tua’r môr a daeth yn flaenoriaeth adeiladu eglwys newydd. Cysegrwyd eglwys newydd ym 1834 a’i galw’n Eglwys Sant Pedr. Dim ond tan 1887, pan gysegrwyd yr eglwys bresennol, y goroesodd yr eglwys honno. Mae oes fer yr hen eglwys yn awgrymu ei bod wedi’i hadeiladu’n wael, dywedid ei bod yn ‘adeilad hyll a diaddurn’.
Mae yna sawl nodwedd ddiddorol yn yr eglwys bresennol, yn enwedig y ffenestri lliw mawr, lliwgar ac urddasol. Efallai mai’r mwyaf cain yw’r un yn yr eil ddeheuol sy’n dyddio o 1891 ac sy’n dangos ‘Cyflwyno Crist yn y Deml’ ac a elwir hefyd Gŵyl Fair y Canhwyllau. Mae’r ffenestr yn arbennig o arwyddocaol oherwydd y gwydr prin, dicronig, sydd ynddi.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.
Christine Williams 01758 612 050
Geraint Williams 07807 736750 | botacho@hotmail.com