Croeso i Eglwys Sant Pedrog; mae’n swatio mewn dyffryn coediog, ychydig oddi wrth yr afon sy’n rhedeg i lawr i draeth Llanbedrog. Mae’r eglwys ar agor bron bob dydd yn ystod misoedd yr haf ac yn denu llawer o ymwelwyr sydd wedi dod yn deulu estynedig i ni dros y blynyddoedd – llawer yn dod yn ôl bob blwyddyn. Mae’n fraint eu croesawu i’n eglwys hardd ac i’n cymuned.
Rydyn ni’n ffodus, yn Llanbedrog, fod yma dîm brwdfrydig sy’n canu ein clychau bob Sul yn ogystal ag ar gyfer y llawer iawn o briodasau sy’n cael eu cynnal yma. Mae’r clochyddion yn ymarfer fel arfer ar nosweithiau Mawrth ac yn mwynhau croesawu clochyddion eraill sy’n ymweld. Gellir cael manylion gan gapten y tŵr, Malcolm Mackley, ar 01758 740293. Cafodd un o’n pum cloch ei bwrw yn 2001 i ddathlu Jwibilî y Fam Frenhines, Elizabeth, (1952-2002) ac mae hynny wedi’i ysgrifennu arni.
Cenhadwr o fynach o’r chweched ganrif oedd ein Nawddsant a sefydlodd sawl eglwys yng Nghernyw, Dyfnaint, Llydaw a Chymru. Bu farw ar 4 Mehefin yn y flwyddyn 564 ac fe’i claddwyd yn Bodmin. Mae’n debyg yr adeiladwyd corff a phrif sylfaeni’r eglwys yn y drydedd ganrif ar ddeg ac mae’n cael ei chrybwyll fel eglwys o bwys mewn dogfen yn dyddio’n ôl i 1254. Mae dwy nodwedd hanesyddol arbennig a diddorol ynghylch yr eglwys. Yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr ail ganrif ar bymtheg, llifodd byddin Oliver Cromwell i Lŷn a chafodd Eglwys Sant Pedrog ei hysbeilio a’i defnyddio fel stabl. Pan glywodd y trigolion fod y milwyr ar eu ffordd, tynnwyd y sgrîn o’r eglwys a’i chladdu, i’w harbed, o dan y tywod ar y traeth cyfagos – ac mae wedi goroesi hyd heddiw. Hefyd, torrodd y fyddin ein ffenestri ond, ym 1895, pan gafodd ein tŵr ei adeiladu, daeth bocs pren i’r fei, wedi’i gladdu yn y ddaear, a oedd yn cynnwys darnau o’r ffenestr ddwyreiniol wreiddiol. Roddwyd y darnau gyda’i gilydd ac mae’r gwydr i’w weld heddiw yn ffenestr y gorllewin yn y balconi.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’n heglwys.
Sally Williams 07773 049 538
David Watson 01758 760361 | uxg570@greenbee.net