BEDYDD

Trwy Fedydd, rydym ni’n cychwyn ar berthynas gydol oes gyda Duw a’r Eglwys, sy’n ein galluogi i dderbyn cariad a gras Duw, yn ymwybodol ac yn bwrpasol. trwy’r sagrafennau gydol ein hoes.

Yn gyffredinol, oni bai fod perygl difrifol o farw yn fuan iawn, rydym ni’n dathlu bedydd mewn unrhyw un o’n Heglwysi ar brynhawniau Sul trwy apwyntiad. Eithriadau i hynny yw yn ystod yr Adfent ym mis Rhagfyr ac yn ystod y Grawys o ganol Chwefror i ganol Ebrill, yn dibynnu ar ddyddiad y Pasg pob blwyddyn.

Os ydych â diddordeb mewn Bedydd ar eich cyfer chi eich hunan neu ar gyfer person ifanc neu blentyn yn eich gofal, cysylltwch ag un o’n clerigion neu gwblhau’r ffurflen ymholiad isod a bydd un o’n clerigion yn cysylltu â chi yn fuan.