Mae maddeuant Duw yn cael gwared ar ein baich o bechod, mae’n ein rhyddhau, mae’n ein hail greu ac yn rhoi tangnefedd i ni. Mae’n ein gwneud ni’n fwy effeithiol ac yn gryfach yn ein bywydau o wasanaeth a thystiolaeth Cristnogol.
Mae fel profiad o gyffyrddiad iachaol Iesu.
Mae’r Sagrafen Penyd a Chymod ar gael trwy apwyntiad ym Mro Enlli.
Bydd unrhyw un o’n clerigion yn barod i drefnu amser cyfleus i gyfarfod â chi.