ANGLADDAU

Ar gyfer Claddu neu Amlosgi

O’r holl ddigwyddiadau dynol, marwolaeth sy’n peri’r pryder dyfnaf. Wrth i farwolaeth agosáu, ein marwolaeth ni’n hunain neu farwolaeth rhywun sy’n agos atom, hynny sydd, ar unwaith, yn hollbwysig ac yn brif bryder i ni.

Os ydych chi, neu anwylyd, yn paratoi ar gyfer marwolaeth ac fe hoffech ein cefnogaeth, cysylltwch ag unrhyw un o’n Clerigion. Mae’r sawl mewn galar angen eu nerthu gan weddïau ar adeg marwolaeth ac yn ystod eu galar cyn yr angladd.

Yn ystod y Gwasanaeth Angladd mae yna: gyfle i fyfyrio ar fywyd y person sydd wedi marw; cysuro’r galarwyr; cymeradwyo’r person sydd wedi marw i Dduw a chyflwyno’r corff ar gyfer ei gladdu neu’i amlosgi

Mae dwy ffurf bosibl i Wasanaeth Angladd:

os yw’n briodol, gellir dathlu Offeren Angladd (neu Offeren Requiem), yn enwedig os yw’r person sydd wedi marw wedi bod yn Gristion mewn gair a gweithred ac yn derbyn Cymun yn yr Eglwys yn rheolaidd.

o dan amgylchiadau eraill, bydd y Gwasanaeth Angladd ar ffurf o ddarlleniadau, myfyrio a gweddi a allai gynnwys emynau a cherddoriaeth arall addas.

Fel arfer, bydd yr angladd yn un o’n heglwysi os yw’r ymadawedig wedi byw ym Mro Enlli, wedi marw yn yr Ardal Weinidogaeth neu gyda chysylltiad â’r eglwys a’r ardal. Fel arfer, mae’r trefniadau’n cael eu gwneud trwy Ymgymerwyr o’ch dewis chi. Bydd angen eu hysbysu eich bod yn dewis angladd Eglwys ac os byddech yn hoffi eglwys benodol.

Codir tâl am Wasanaethau Angladd sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol gan Gorff Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru. Mae gan yr Ymgymerwyr holl fanylion Ffioedd Angladdau Eglwysig.