PRIODASAU

a BENDITHION EGLWYSIG

Mae priodi yn eithriadol o gyffrous – mae priodi yn yr Eglwys hyd yn oed yn well!

Pan fydd dau berson yn cymryd eu Llwon Priodas i’w gilydd yn yr Eglwys, mae eu ffordd o fwy’n newid i fod yn Sagrafen – mae Duw yn bendithio’u huniad ac yn rhoi gras iddyn nhw fyw yn ôl yr addewidion a’r ymrwymiad difrifol y mae eu Llwon yn eu mynegi. Mae modrwyau priodas yn rhan weledol o’r ffordd newydd hon o fyw – mae presenoldeb Duw yn y briodas yn anweladwy ond mae’n dal yn real a dyma’r gwahaniaeth sy’n gwneud Priodas Eglwys yn wahanol i bob un arall.

Os ydych chi’n byw yn unrhyw le ym Mro Enlli (neu mae gennych gysylltiad gydag Eglwys y Plwyf* sy’n eich gwneud yn gymwys) cewch briodi mewn unrhyw un o’n saith eglwys. Bydd rhai paratoadau a fydd yn cynnwys cyfarfodydd cynllunio gyda’n Clerigion, darllen eich Gostegion Priodas yn yr eglwys a gwneud yr hyn sydd orau i chi fel cwpl wrth baratoi ar gyfer priodas.

I gael rhagor o fanylion ynghylch sut i briodi yn unrhyw un o’n heglwysi a’r costau, cysylltwch naill ai ag un o’r Clerigion yn uniongyrchol neu llanwch y ffurflen ymholiad isod a bydd un o’n Clerigion yn cysylltu â chi.

*i gael manylion ‘cysylltiad cymwys’, cysylltwch ag unrhyw un o’n Clerigion







    Dim Priodasau yn ystod tymor y Garawys