Mae Myfyrdodau yn cael eu cynnig ar un gyda’r nos Fercher y mis 7.30pm – 8.15pm
Rhodd Eglwys Sant Maelrhys yw’r rhodd o fyfyrdod.
Yn sefyll ar ei phen ei hun, ychydig yn ôl o’r allt fôr ym Mhorth Ysgo, mae symlrwydd tawel y tu mewn yn canolbwyntio ar y ffenestr ddwyreiniol glir ac yn galluogi cymundod gyda byd y greadigaeth allanol a’r byd o fyfyrdod mewnol trwy weddi..
Mae Myfyrdodau yng ngolau cannwyll yn dyfnhau’r profiad myfyriol, trwy gerddoriaeth, barddoniaeth ac ysgrifau doethineb o wahanol ffynonellau.
Yn cael ei arwain gan Susan Fogarty, Arweinydd Addoliad wedi’i chomisiynu, gyda ‘Gweinidogaeth trwy Farddoniaeth’ mae’r digwyddiadau hyn yn fwy ysbrydol na litwrgaidd, a allai fod o fudd i bobl o wahanol gredoau neu heb ddim.
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r dyddiau a’r amser yn gallu amrywio i’w gwneud yn haws i gyrraedd yno. Cliciwch yma i gael dyddiadau Myfyrdodau.
Mae Llofft R S Thomas yn oruwch ystafell, sydd hefyd yn cynnig ei hun i fyfyrio. Mae’r silffoedd yn llawn o hen lyfrau, copïau o’i farddoniaeth a lluniau teuluol. Cewch eistedd yma a darllen ei farddoniaeth neu wrando ar recordiadau ohono’n darllen ei farddoniaeth ei hun, tra’n mwynhau diod poeth, yn edrych trwy’r ffenestr ar yr ynys sanctaidd, Enlli.
Beddau enwog yn Sant Maelrhys
Gwraig R S Thomos, M E Eldridge yr arlunydd enwog a’u hunig fab Gwydion
Y chwiorydd Keating a’u mam, a roddodd Plas yn Rhiw gerllaw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Y Parch James England Cotter ‘Jim’, un o sylfaenwyr y Symudiad Cristnogol Hoyw
Cyfeiriadau: Mae St Maelrhys dair milltir o Aberdaron i gyfeiriad Y Rhiw.
Trowch i’r dde yn y groesffordd tuag at Borth Ysgo. Côd post ar gyfer Satnav yw LL53 8AN