Ynys Enlli

‘Ynys y Llanw’

Mae Ynys Enlli (yn llythrennol, ‘ynys y llanw’) yn fan pererindota sydd wedi chwarae rhan bwysig iawn gydol hanes crefyddol Cymru. Mae’n un o’r ynysoedd mwyaf oddi ar arfordir Cymru, gyda’i mynydd, elltydd môr, traethau a thir gwastad yn gynefin i amrywiaeth mawr o fywyd gwyllt.

Yn ôl y traddodiad, Cadfan a sefydlodd y fynachlog Geltaidd gyntaf ar Enlli. Ond mae llawer yn honni, ac yn eithaf sicr, bod Enlli yn lle o ysbrydol pwysig cyn dyfodiad Cristnogaeth. Y cofnod cyntaf o bresenoldeb mynachaidd ar yr ynys yw arysgrif sy’n dyddio o ddiwedd y bumed neu ddechrau’r chweched ganrif a ganfuwyd ar fynydd Anelog sy’n cofnodi claddu offeiriad o’r enw Senacus a llawer o’r brodyr (gellir gweld y garreg hyd heddiw yn eglwys Aberdaron). Dioddefodd y fynachlog a’i thrigolion yn ddifrifol o ymosodiadau’r Llychlynwyr yn y nawfed a’r ddegfed ganrif a daw’r enw Saesneg Bardsey o’r Llychlyneg, sy’n golygu ‘Ynys y Bardd’. Gellir gweld olion sylfaeni’r cytiau crwn, bychan, Celtaidd ar y mynydd yn y gaeaf a dechrau’r gwanwyn cyn i’r rhedyn ddechrau tyfu.

Erbyn y ddeuddegfed ganrif, roedd Enlli wedi’i hen sefydlu fel lle o arwyddocâd arbennig yng Nghymru. Roedd hyd yn oed y Pab Callixtus 11 yn dweud yn 1119 fod tair ymweliad ag Enlli’n cyfrif fel un i Rufain! Ac, yn 1120, yn ‘Llyfr Llandâf’, mae’r Esgob Urban yn disgrifio’r ynys fel ‘Rhufain Cymru’ a bod 20,000 o saint wedi’u claddu yno. Heddiw, gall pererinion ddal i weld adfeilion yr Abaty Awgwstinaidd o’r 13eg ganrif a ddilynodd yr un Geltaidd, gynharach.

Ym 1979, prynodd ymddiriedolaeth newydd, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, yr ynys a heddiw mae poblogaeth fechan yn gweithio arni gydol y flwyddyn. Mae’r tir yn cael ei ffermio mewn ffordd sy’n cydbwyso nodau ecolegol ac amgylcheddol sensitif gyda thechnegau modern ac mae’r rhan fwyaf o’r tai yn cael eu gosod i ymwelwyr yn ystod yr haf. Erbyn hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am yr ynys ac yn ei chynnal fel lle o adnewyddiad crefyddol ac ysbrydol ac fel canolfan adar, bioleg y môr a physgota yn ogystal â gwyddorau naturiol eraill.

Isod mae rhestr o gysylltiadau defnyddiol:

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli | 0845 811 2233 | www.bardsey.org
Gwasanaeth Cwch Enlli | 07971 769 895 | www.bardseyboattrips.com