Ficer 1967 – 1978 ymddeolodd i Sarn Plas, Rhiw hyd at 1993.
Mae’n cael ei ystyried gan lawer fel bardd mwyaf Cymru’r 20fed ganrif, cafodd ei enwebu am wobr Nobel am lenyddiaeth ym 1996, mae’i etifeddiaeth yn ganon o tua 2,000 o gerddi dros bron iawn 50 o flynyddoedd.
Mae pobl yn dod o dros y byd i gyd i Aberdaron i weld y pentref, eglwysi a thirlun a ysbrydolodd ei farddoniaeth.
Mae gŵyl lenyddol flynyddol wedi’i chynnal yn Aberdaron ers 2013. Mae’n denu siaradwyr, academyddion a beirdd o dros y byd. Yn 2017 crewyd Cymdeithas R S Thomas & M E Eldridge, gyda’r ŵyl wedi’i hehangu erbyn hyn i gynnwys barddoniaeth, celf a cherddoriaeth. Cynhelir ar y trydydd penwythnos ym mis Mehefin, yr agosaf at hirddydd haf.
Gwyl 2022 16 -19 Mehefin yn Aberdaron
Tocynnau a Rhaglen ~ Eventbrite
https://www.eventbrite.co.uk/e/rs-thomas-me-eldridge-poetry-arts-festival-2022-time-tide-tickets-90188627613
Mae gan y siop lyfrau yn Eglwys Sant Hywyn un o’r dewisiadau gorau yng Nghymru o lyfrau R S Thomas sydd dal mewn print neu sydd wedi’u hysgrifennu amdano.
Mae darlleniad myfyriol, un awr o hyd, o gerddi Thomas Stations to the Untenanted Cross yn gallu cael ei ddarparu trwy drefniant gyda Susan Fogarty, darllenydd arbenigol o’i gerddi.
Cyswllt e-bost: Susanafogarty@gmail.com Ffôn: 01758 703 039
Mae Llofft RS Thomas yn oruwch ystafell fechan yn Eglwys Sant Maelrhys, Porth Ysgo, sy’n benthyg ei hunan i fyfyrdod barddonol. ae Dyma hoff eglwys Thomas, ble roedd yn dal i gynnal gwasanaethau ar gyfer llond dwrn o blwyfolion ar ôl iddo ymddeol o’i weinidogaeth. Mae’r silffoedd wedi’u leinio gyda hen lyfrau, copïau o’i gasgliadau barddoniaeth a lluniau o R S Thomas, ei wraig a’i fab. Cewch eistedd yma a darllen ei farddoniaeth neu gwrando ar recordiadau ohono’n darllen ei farddoniaeth ei hun, tra’n mwynhau diod poeth, yn edrych trwy’r ffenestr ar yr ynys sanctaidd, Enlli.
Mae Elsi ei wraig, arlunydd enwog ei hanan a’u hunig fab Gwydion, wedi’u claddu yma.
Cyfeiriadau: Mae St Maelrhys 3 milltir allan o Aberdaron i gyfeiriad Y Rhiw.
Trowch i’r dde yn y groesffordd tuag at Borth Ysgo. Côd post ar gyfer Satnav yw LL53 8AN