y gysegrfa

Y Forwyn Fair a Phen Llŷn

Roedd yna gysegrfan wedi’i chysegru i’r Forwyn Fair ym Mhwllheli yn y 15fed ganrif ond cafodd ei dinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd. Yn 2016, crewyd cysegrfan newydd a gosodwyd creirfa yno rhwng 2018 – 2020. Fis Awst 2019 cyrhaeddodd cerflun pren, wedi’i gomisiynu’n arbennig a’i seilio ar y portread traddodiadol o Fair ac wedi’i gerfio yng Nghymru gan y cerflunydd Simon O’Rourke.

Mae’r gysegrfan ar agor pob dydd i ymwelwyr a phererinion ac mae croeso i fyfyrio, gweddïo a goleuo canhwyllau ddefosiynol.

Y Forwyn Fair a Phen Llŷn

Mae gan ddefosiwn a chysegru eglwysi yng Nghymru i Fair gysylltiad cryf â’r traddodiad o bererindota sy’n mynd yn ôl i’r canol oesoedd.

Yn y 12fed ganrif, roedd yr Abaty Awgwstinaidd ar Ynys Enlli, yn ogystal â’r capel mawr yn Uwchmynydd, ar y tir mawr, wedi’u cysegru i Fair. Yno hefyd mae Ffynnon Fair, pwll dŵr croyw naturiol, mewn hafn serth ar greigiau’r môr yn agos at lle’r oedd y capel. Does dim ar ôl o’r capel erbyn hyn ond olion ei sylfaeni yn y tir.

Mae tystiolaeth fod yna gysegrfan ym Mhwllheli ym marddoniaeth Hywel Rheinallt 1471 – 1494 a oedd yn byw yn Llannor ger Pwllheli. 1 Mae’n cymharu’r pererinion lleol â’r rhai sy’n ymweld â’r gysegrfan enwog ar benrhyn y Santes Dwynwen ar Ynys Môn.

Llu a eilw ym Mhwllheli
I gael help ar ei gŵyl hi.
Gwŷr o wlad ragorol wen,
Gwŷr o fôr i gaer fawrwen,
Gwŷr Llŷn ac eraill unair.
Craig euraid, cwyr ac arian,
Can llaw’n dwyn canhwyllau’n dân.
Dinas fel penrhyn Dwynwen,
Daear i Fair yw’r dre’ wen.

A literal English translation

Crowds call at Pwllheli
to receive help on her feast day.
Men from excellent holy region,
Men from the sea to the holy fortress,
Men from Llŷn and others of like persuasion.
Golden rock, wax and money,
A hundred hands carrying lit candles.
A citadel like Dwynwen’s promontory,
This holy town is Mary’s ground.

Mae’r Tad Huw Bryant, a gafodd ei ysbrydoli i greu’r gysegrfan yn 2016, wedi cyhoeddi llyfryn o fyfyrdodau
“Mair Pen Llŷn: Gweledigaeth o’i Saith Dolur”.
Mae ar gael yn Eglwys Sant Pedr a Sant Hywyn, a hefyd gellir ei lawrlwytho yma.

Mae croeso i grwpiau o ymwelwyr a phererinion, trwy drefniant arbennig gydag Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth..