Beth bynnag yw eich cwestiwn, clod neu bryder, mae yma rywun ar y rhestr hon a fydd yn falch o gysylltu â chi.
Yn dibynnu ar natur eich ymholiad, gallwch naill ai gysylltu â’n hoffeiriadon, y Warden Ardal Weinidogaeth neu’r Warden Eglwys berthnasol, os ydi’n benodol i eglwys unigol.
“Mae’r 25 mlynedd diwethaf wedi hedfan ers dechrau fy ngweinidogaeth fel Rheithor Llanbedrog a Llannor, sydd erbyn hyn wedi tyfu’n deulu o gynulleidfaoedd a adnabyddir fel Bro Enlli. Rwyf wedi mwynhau cymaint bod â rhan ym mywyd ein teulu, ein heglwysi a’n cymunedau.
Rwy’n diolch i bob un ohonoch chi am y rhan rydych yn ei chwarae, am eich cefnogaeth ac am y cariad rydych yn ei gynnig i mi.”