Yn ogystal a’r pethau arferol y byddech yn eu disgwyl mewn eglwys: gwasanaethau’r Sul, bedyddio, priodi a chynebryngau, mae ein heglwysi’n cynnig gwahanol gyfleoedd i bobl ddod ynghyd a phrofi’r ‘eglwys’ mewn ffordd wahanol.
Rydyn ni’n credu fod ein heglwysi yma er budd y bobl, y tu hwnt i’n cynulleidfaoedd rheolaidd ar y Sul: pobl sy’n byw yn y gymuned ehangach yn ogystal ag ymwelwyr a phererinion. Rydyn ni’n defnyddio ein heglwysi’n greadigol i alluogi mwy o bobl i gael budd o’n hetifeddiaeth gyffredin.
Mae ein Harweinydd Tîm Gweinidogaeth yn neilltuo un diwrnod y mis i ymweld â bron iawn pob ysgol yn ein hardal weinidogaeth, gan gynnig ennyd i ganolbwyntio ar grefydd trwy’r gwasanaeth mewn ysgolion.
Mae yna glwb ar ôl ysgol yn Llannor pob dydd Mercher am 4pm yn cael ei redeg gan bobl yr Ardaloedd Gweinidogaeth yn Llŷn.
Drwy brosiectau ar y cyd nifer o ysgolion, mae arddangosfa o gelf y plant yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli.
Mae ysgolion sy’n agos at Bwllheli wedi defnyddio Eglwys Sant Pedr i gynnal eu cyngherddau Nadolig. Mae hynny’n eu galluogi i gynnwys mwy o ddisgyblion a’u teuluoedd.
Dydd Mercher 1pm – 3pm yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli.
Fe’i dechreuwyd yn 2018 ac mae’n gyfle i blant ifanc a babanod chwarae mewn lle diogel o dan do. Mae hefyd yn lle cyfforddus a chroesawgar i rieni a neiniau a theidiau gael paned a sgwrs. Does dim angen bod yn aelod o’r eglwys, dim ond rhoi rhodd o £1 y teulu, ac mae sudd a byrbrydau ar gael i’r plant hefyd.
Mae rhai o’n heglwysi a’n neuaddau’n cael eu defnyddio ar gyfer Arddangosfeydd celf a ffotograffau hanesyddol. Mae Gŵyl Celf Llŷn gydol wythnos diwethaf mis Mai yn boblogaidd iawn ac yn denu llawer o bobl leol ac ymwelwyr.
Mae Gŵyl flynyddol Barddoniaeth a Chelf R S Thomas ac M E Eldridge yn Aberdaron dros benwythnos Gŵyl Ifan yn denu pobl o bob rhan o’r byd.
Mae eglwysi Sant Hywyn yn Aberdaron, Sant Pedr ym Mhwllheli a Sant Engan yn Llanengan i gyd yn lleoliadau rhagorol sydd â rhaglenni amrywiol o gerddoriaeth a theatr gydol y flwyddyn. Mae rhagor o fanylion am galendr digwyddiadau eleni ar ein tudalen “Digwyddiadau”.
Mae grwpiau celf a chrefft a dosbarthiadau ioga yn cael eu cynnal yn neuadd eglwys Sant Pedrog yn Llanbedrog.
Mae grŵp llywio ‘Dementia Cyfeillgar’ yn cyfarfod yn Eglwys Sant Pedr ym Mhwllheli ac ar foreau Mercher cynhelir Marchnad Cynnyrch a Chrefftau Cartref y Gwystyl.